#
Papur briffio:
Rhif y ddeiseb: P-05-731 Teitl y ddeiseb: Gwerthu tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal gwerthu’r tir a’r ffordd fynediad y tu ôl i eiddo 1 i 67 Park View Terrace, Abercwmboi hyd nes y ceir sylwadau gan y gymuned leol, a hyd nes y caiff opsiynau eraill eu hystyried. Mae’r gwerthiant hwn yn mynd rhagddo heb hysbysu nac ymgynghori â’r bobl hynny a gaiff eu heffeithio gan werthiant o’r fath. |
Cefndir
Mae dogfen Llywodraeth Cymru Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru yn rhoi gwybodaeth am sut y rheolir adnoddau (gan gynnwys asedau, tir ac eiddo) gan sefydliadau sy’n gweithredu o fewn cylch gwaith Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru. Mae tudalen 124 yn cynnwys protocol ar gyfer gwaredu tir, eiddo ac asedau eraill ac yn nodi'n benodol y dylai cyrff cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) wneud yr hyn a ganlyn:
§ Nodi prisiau asedau ar y farchnad gan ddefnyddio Llyfr Coch Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (www.rics.org);
§ Ystyried cyfleoedd i gydweithredu mewn perthynas ag asedau yn y sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol;
§ Gwaredu eiddo tir dros ben o fewn tair blynedd.
Mae Space Cymru yn hysbysebu eiddo yn y sector cyhoeddus sydd ar gael i'w osod neu'i brynu yng Nghymru. Nid yw'r tir a nodwyd yn y ddeiseb wedi'i restru fel un sydd ar werth ar hyn o bryd.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi cadarnhau mewn llythyr a anfonwyd at y Pwyllgor fod ei swyddogion ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch defnyddio'r tir a nodwyd yn y ddeiseb ar gyfer mynediad at safle datblygu cyfagos. Os nad oes angen y tir ar gyfer mynediad at y safle hwnnw, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd yn cael ei werthu ar sail y farchnad agored.
Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gwnaeth yr ymchwiliad i Reoli Asedau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn 2013 argymhellion i Lywodraeth Cymru gryfhau ei Strategaeth Rheoli Asedau. Gwnaeth Llywodraeth Cymru yn ei ymateb dderbyn bod y gwaith o ddatblygu strategaeth a chynllun Rheoli Asedau Corfforaethol yn flaenoriaeth. Mae strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol Llywodraeth Cymru 2016-21 a luniwyd yn sgil hyn yn datgan yr hyn a ganlyn:
Os penderfynir, ar ôl cynnal adolygiad strategol, bod ased yn ddiangen, caiff ei waredu’n unol ag arfer gorau cydnabyddedig.
[…]
Rydym wedi mabwysiadu canllawiau rheoli asedau a gyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ac rydym yn rhan o’r “Gyfnewidfa Arfer Da” ac yn cyfrannu at seminarau dysgu cyffredin. www.wao.gov.uk/cy/arfer-da/asedau
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |